Lleoliad Hyfforddi Archaeoleg Gymunedol 2012–13: Cadw (cymraeg)

Disgrifiad o’r Lleoliad Hyfforddi

LLEOLIAD HYFFORDDI ARCHAEOLEG GYMUNEDOL

Noder bod ceisiadau ar gyfer yr hyfforddeiaeth hon ar gau nawr

Mae Cyngor Archaeoleg Prydain (CBA), sef elusen addysgol (287815) a chanddi ysgrifenyddiaeth wedi’i lleoli yng Nghaerefrog, wrthi’n cydlynu prosiect cyffrous ledled y Deyrnas Unedig a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gyda chymorth ychwanegol gan Cadw, English Heritage ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru. Nod y prosiect yw cynnig lleoliadau hyfforddi ledled y Deyrnas Unedig i unigolion sydd am sicrhau profiad a chymwysterau mewn cynnal prosiectau archaeoleg gymunedol.

  • Y Lleoliad: Cadw, Plas Carew, Uned 5/7 Cefn Coed, Parc Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QQ
  • Yn adrodd i: Gwilym Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Amgylchedd Hanesyddol
  • Goruchwylydd yr Hyfforddiant: Cydlynydd Bwrsarïau’r CBA yng Nghaerefrog
  • Bwrsari: £16,450, ynghyd â phensiwn deniadol
  • Oriau: Gan gadw at argymhellion yr IfA ar becynnau cyflogaeth, 37.5 awr yr wythnos fydd yr oriau gwaith, gan roi amser in lieu i wneud iawn am amser gwaith y tu allan i’r oriau hyn. Disgwylir i ddeiliaid y swyddi weithio’n weddol hyblyg gyda’r nos ac ar y penwythnos yn ôl yr angen.

Download cais Bacio

  • Cadw: Lleoliad Hyfforddi Archaeoleg Gymunedol (Cymraeg) DOC | 1.48MB

  • Y Rôl: Bydd y rôl yn gofyn i’r unigolion ddysgu drwy weithio’n uniongyrchol gyda rheolwyr llinell, darparwyr hyfforddiant a mentoriaid yn y sefydliadau sy’n cynnal y lleoliadau er mwyn ennill y sgiliau angenrheidiol i gynnal a chefnogi prosiectau archaeoleg gymunedol effeithiol. Y sgiliau sy’n cael eu codi/datblygu fydd y math o sgiliau ‘meddal’/anghyffwrdd y mae eu hangen wrth weithio gyda’r sector cyhoeddus/gwirfoddol.

Bydd y rhain yn cynnwys:

  • Sgiliau rhyngbersonol, er enghraifft: sgiliau cymdeithasol ac ymdopi ag awdurdod
  • Sgiliau trefnu, megis: trefniadau personol, a’r gallu i osod trefn a blaenoriaethau
  • Sgiliau dadansoddi, megis: y gallu i ddefnyddio barn, i reoli amser neu i ddatrys problemau
  • Sgiliau personol, er enghraifft: crebwyll, cymhelliant, hyder, bod yn ddibynadwy ac ymwybyddiaeth o iechyd
  • Caiff y sgiliau hyn eu datblygu drwy ddefnyddio gwybodaeth ac ymarfer archaeolegol fel dull dysgu a chefnogi. Bydd Deiliaid y Swyddi yn cael eu helpu i ddysgu sut i wella sgiliau caled, megis cloddio, archifo, prosesu, cofnodi, cyhoeddi - drwy ddefnyddio, cyflwyno a dehongli gwybodaeth archaeolegol er budd y cyhoedd a thrwy feithrin gallu cymunedau/gwirfoddolwyr.

Bydd Deiliaid y Swyddi yn ymgymryd â nifer o dasgau i ddatblygu gwybodaeth am sut i weithio gyda’r sector gwirfoddol. Bydd y rhain yn cynnwys (nid yw hon yn rhestr gyflawn):

  • Dylunio a rhedeg sesiynau hyfforddi archaeolegol
  • Dylunio deunyddiau dehongli a deunyddiau dysgu
  • Dechrau a goruchwylio gwaith maes sy’n cynnwys gwirfoddolwyr
  • Nodi a chydlynu prosiectau archaeolegol
  • Sefydlu a chydlynu cyfleoedd i rwydweithio
  • Diweddaru systemau i reoli cysylltiadau
  • Archifo a rheoli cofnodion
  • Nodi a chysylltu â grwpiau cymunedol penodol er mwyn eu cynnwys
  • Cloriannu canlyniadau cymdeithasol prosiectau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol
  • Cyfrannu (lle bo’n briodol) at geisiadau am gyllid, naill ai gan y sefydliad sy’n cynnal y lleoliad neu gan grwpiau gwirfoddol y mae’r sefydliad yn cydadweithio â nhw
  • Cyhoeddi ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd
  • Cyfathrebu ar lafar ac mewn ysgrifen (yn enwedig yng nghyd-destun egluro cysyniadau cymhleth)
  • Bydd Deiliaid y Swyddi hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio cyfryngau newydd er mwyn bwrw’r rhwyd mor eang â phosibl a rhannu gwybodaeth.

Ar ôl eu llenwi, dylai’r ffurflenni gael eu hanfon yn ôl at Polly Groom, Arolygydd Rhanbarthol Henebion (De-orllewin Cymru) Cadw, Plas Carew, Uned 5/7 Cefn Coed, Parc Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QQ. Gofalwch dalu’r pris postio cywir am eich cais: gall talu’r pris anghywir arwain at ohirio’ch cais a methu’r dyddiad cau. Os oes arnoch angen cydnabyddiaeth bod eich cais wedi dod i law, amgaewch amlen a stamp arni. Fel arall, gallwch e-bostio’ch cais at polly.groom@cymru.gsi.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais wedi’u llenwi yw dydd Gwener 20 Ionawr 2012. Cynhelir y cyfweliadau ar 7 Chwefror 2012. Cynhelir cyfran o’r cyfweliad yn Gymraeg.