Lleoliad Hyfforddi Archaeoleg Gymunedol 2012–13: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
Disgrifiad o’r Lleoliad Hyfforddi
LLEOLIAD HYFFORDDI ARCHAEOLEG GYMUNEDOL
Noder bod ceisiadau ar gyfer yr hyfforddeiaeth hon ar gau nawr
Mae Cyngor Archaeoleg Prydain (CBA), sef elusen addysgol (287815) a chanddi ysgrifenyddiaeth wedi’i lleoli yng Nghaerefrog, wrthi’n cydlynu prosiect cyffrous ledled y Deyrnas Unedig a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gyda chymorth ychwanegol gan Cadw, English Heritage ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru. Nod y prosiect yw cynnig lleoliadau hyfforddi ledled y Deyrnas Unedig i unigolion sydd am sicrhau profiad a chymwysterau mewn cynnal prosiectau archaeoleg gymunedol.
- Y Lleoliad: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd,
- Yn adrodd i: Rheolwr yn yr Ymddiriedolaeth
- Goruchwylydd yr Hyfforddiant: Cydlynydd Bwrsarïau’r CBA yng Nghaerefrog
- Bwrsari: £16,540
- Oriau: Gan gadw at argymhellion yr IfA ar becynnau cyflogaeth, 37.5 awr yr wythnos fydd yr oriau gwaith, gan roi amser in lieu i wneud iawn am amser gwaith y tu allan i’r oriau hyn. Disgwylir i ddeiliaid y swyddi weithio’n weddol hyblyg gyda’r nos ac ar y penwythnos yn ôl yr angen.
Download cais Bacio
GAT: Lleoliad Hyfforddi Archaeoleg Gymunedol (Cymraeg) DOC | 1.48MB
Y Rôl: Bydd y rôl yn gofyn i’r unigolion ddysgu drwy weithio’n uniongyrchol gyda rheolwyr llinell, darparwyr hyfforddiant a mentoriaid yn y sefydliadau sy’n cynnal y lleoliadau er mwyn ennill y sgiliau angenrheidiol i gynnal a chefnogi prosiectau archaeoleg gymunedol effeithiol. Y sgiliau sy’n cael eu codi/datblygu fydd y math o sgiliau ‘meddal’/anghyffwrdd y mae eu hangen wrth weithio gyda’r sector cyhoeddus/gwirfoddol.
- Bydd y rhain yn cynnwys:
- Sgiliau rhyngbersonol, er enghraifft: sgiliau cymdeithasol ac ymdopi ag awdurdod
- Sgiliau trefnu, megis: trefniadau personol, a’r gallu i osod trefn a blaenoriaethau
- Sgiliau dadansoddi, megis: y gallu i ddefnyddio barn, i reoli amser neu i ddatrys problemau
- Sgiliau personol, er enghraifft: crebwyll, cymhelliant, hyder, bod yn ddibynadwy ac ymwybyddiaeth o iechyd
- Caiff y sgiliau hyn eu datblygu drwy ddefnyddio gwybodaeth ac ymarfer archaeolegol fel dull dysgu a chefnogi. Bydd Deiliaid y Swyddi yn cael eu helpu i ddysgu sut i wella sgiliau caled, megis cloddio, archifo, prosesu, cofnodi, cyhoeddi - drwy ddefnyddio, cyflwyno a dehongli gwybodaeth archaeolegol er budd y cyhoedd a thrwy feithrin gallu cymunedau/gwirfoddolwyr.
- Bydd Deiliaid y Swyddi yn ymgymryd â nifer o dasgau i ddatblygu gwybodaeth am sut i weithio gyda’r sector gwirfoddol. Bydd y rhain yn cynnwys (nid yw hon yn rhestr gyflawn):
- Dylunio a rhedeg sesiynau hyfforddi archaeolegol
- Dylunio deunyddiau dehongli a deunyddiau dysgu
- Dechrau a goruchwylio gwaith maes sy’n cynnwys gwirfoddolwyr
- Nodi a chydlynu prosiectau archaeolegol
- Sefydlu a chydlynu cyfleoedd i rwydweithio
- Diweddaru systemau i reoli cysylltiadau
- Archifo a rheoli cofnodion
- Nodi a chysylltu â grwpiau cymunedol penodol er mwyn eu cynnwys
- Cloriannu canlyniadau cymdeithasol prosiectau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol
- Cyfrannu (lle bo’n briodol) at geisiadau am gyllid, naill ai gan y sefydliad sy’n cynnal y lleoliad neu gan grwpiau gwirfoddol y mae’r sefydliad yn cydadweithio â nhw
- Cyhoeddi ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd
- Cyfathrebu ar lafar ac mewn ysgrifen (yn enwedig yng nghyd-destun egluro cysyniadau cymhleth)
- Bydd Deiliaid y Swyddi hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio cyfryngau newydd er mwyn bwrw’r rhwyd mor eang â phosibl a rhannu gwybodaeth.
Marciwch eich cais ar gyfer Emily La Trobe-Bateman a’i anfon drwy’r post at Craig Beuno, Ffordd y Garth, Bangor LL57 2SL neu drwy’r e-bost at emily@heneb.co.uk. Os ydych yn gwneud cais drwy’r e-bost, gofalwch ofyn am dderbynneb i ddangos bod y neges wedi’i darllen.
Y dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais wedi’u llenwi yw dydd Gwener 20 Ionawr 2012. Cynhelir y cyfweliadau ar 13 Chwefror 2012. Cynhelir cyfran o’r cyfweliad yn Gymraeg.







